P-05-869 Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi – Datganiad Llwyodraeth Cymru ar argyfwng hinsawdd, 29.04.19

 

Llywodraeth Cymru'n datgan ei bod yn argyfwng ar yr hinsawdd

Mae Gweinidog yr Amgylchedd Lesley Griffiths wedi cyhoeddi heddiw ei bod yn argyfwng hinsawdd, a hithau ar fin cyfarfod â Gweinidogion y DU a'r Alban yng Nghaerdydd.

Mae'r datganiad yn neges glir gan Lywodraeth Cymru na chaiff y broses o adael yr UE ein dallu i her y newid yn yr hinsawdd, sy'n bygwth ein hiechyd, ein heconomi, ein seilwaith a'n hamgylchedd naturiol.

Wrth i weinidogion amgylchedd y DU, Cymru a'r Alban gwrdd yng Nghaerdydd heddiw, mae'r cyhoeddiad yn tanlinellu aruthredd a phwysigrwydd tystiolaeth ddiweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd a'r protestiadau diweddar ynghylch yr hinsawdd ledled y DU.

Ddiwedd yr wythnos hon, cyhoeddir cyngor diweddaraf corff cynghori statudol Llywodraeth Cymru, Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, ar sut y bydd ceisio gwireddu nodau Cytundeb Paris yn effeithio ar dargedau statudol tymor hir Cymru ar y newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

Rwy'n credu ein bod yn ddigon penderfynol a dyfeisgar yma yng Nghymru i allu cynnal economi carbon isel yr un pryd â chreu cymdeithas decach ac iachach.

Rydyn ni'n gobeithio y gall y datganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw helpu i sbarduno ton o weithredu yma ac yn rhyngwladol. Gan ein cymunedau, busnesau a sefydliadau'n hunain a seneddau a llywodraethau ledled y byd.

Nid yw taclo'r newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth y gallwn ei adael i unigolion a'r farchnad rydd. Rhaid wrth weithredu ar y cyd, ac mae gan y llywodraeth ran ganolog i'w chwarae yn hyn o beth.

Does yr un wlad yn y byd wedi llwyr sylweddoli'r her ond yn union fel y gwnaeth Cymru chwarae rhan flaenllaw yn y chwyldro diwydiannol cyntaf, rwy'n credu y gall Cymru fod yn esiampl i eraill o'r hyn y gall twf amgylcheddol ei olygu.

Mae'n deddfwriaeth ar ddatblygu cynaliadwy a'r amgylchedd eisoes yn esiampl i'r byd a rhaid inni nawr ddefnyddio'r ddeddfwriaeth honno i gyflymu camau'r newid.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo y bydd ein sector cyhoeddus yn garbon niwtral erbyn 2030 a bydd yn cydweithio ag eraill, gan gynnwys academia, diwydiant a'r trydydd sector, i helpu rhannau eraill o'r economi i droi oddi wrth danwyddau ffosil. Fis diwethaf, cyhoeddodd Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel a'i 100 o bolisïau a chynigion i gwrdd â thargedau allyriadau carbon 2020.

Mae'r cynllun ar gyfer 2021-26 eisoes yn cael ei baratoi ac aiff yn gynt ac yn bellach. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ystyried sut y dylai ffermwyr gael eu helpu ar ôl Brexit gyda'r elfen nwyddau cyhoeddus ac mae'n diweddaru'i Chynllun Adfer Natur i sbarduno gweithredu brys i gryfhau ecosystemau er mwyn gwyrdroi'r dirywiad yn ein cynefinoedd a rhywogaethau.